Hanes
Technegau
Amcanion
Amserlen/digwyddiadau
Lleoliad
Oriel
Cysylltiadau/dolenni
 
Designed by AdesDesign

TECHNEGAU


MYND I BYSGOTA.
SAFLE PICNIC Y GARREG DDU.

(Llun gan Barry Davis)


Mae’r pysgotwyr wrthi’n hyrwyddo’r bysgodfa fel pysgodfa dreftadaeth ac atyniad i dwristiaid, a’u nod yw cadw hanes a thraddodiad pysgota â rhwydi lâf yn fyw er mwyn i genedlaethau’r dyfodol eu mwynhau. Gellir gwylio’r pysgota’n gwbl ddiogel o safle picnic y Garreg Ddu ger pentref Porth Sgiwed, Sir Fynwy.


YN BAROD I BYSGOTA.
‘RIMES’ WEDI’U CLOI I’R ASTELL.

(Llun gan Barry Davis)


Mae’r Pysgotwyr Rhwydi Lâf yn ceisio cadw’r bysgodfa yn un mor draddodiadol â phosibl. Parheir i wneud y rhwydi Lâf yn y dull traddodiadol drwy ddefnyddio strwythur siâp “Y” yn cynnwys dwy fraich o’r enw ‘rimes’ a wneir o goed helyg lleol, ac mae hwn yn gweithio fel fframwaith i osod y rhwyd arno’n llac. Gelwir y goes yn ‘rock staff’ ac fe’i gwneir o bren onnen neu helygen, ac mae’r breichiau wedi’u colfachu i’r goes hon; fe’u cedwir yn eu lle wrth bysgota â thinbren a elwir yn astell.


GWAU RHWYD YN Y GARREG DDU.

(Llun gan Barry Davis)


Caiff y rhwyd ei hun ei gwau o hyd gan ddefnyddio’r dull traddodiadol o ddefnyddio stribed o bren a gweillen. Yn yr hen amser, roedd y rhwydi’n cael eu gwneud o gortyn cywarch a’u gwau gan y teulu Williams o Sudbrook.


PYSGOTWYR Â RHWYDI LÂF WEDI’U PLYGU DROS EU HYSGWYDDAU YN CERDDED ALLAN I’R FORYD I BYSGOTA.

(Llun gan Barry Davis)


Caiff y pysgod eu dal yn ystod y trai. Bydd y pysgotwyr yn cerdded allan i’r foryd gyda rhwydi ar eu hysgwyddau i’r mannau pysgota traddodiadol lle safant hyd at eu canol yn y dwr. Agorir y rhwyd wedyn a bydd y breichiau’n cloi i mewn i’r astell. Caiff y rhwyd ei gollwng i’r trai wedyn, a bydd llif y dwr yn rhuthro drwy’r rhwyd. Gosodir llaw ar goes y rhwyd yn barod i’w gwthio i lawr, a bydd y llaw arall ar yr astell yn barod i dynnu i fyny. Bydd bysedd y pysgotwr yn cydio yng ngwaelod y rhwyd, ac yna arhosa i’r pysgod fwrw’r rhwyd.

DISGWYL AM DDALFA.

(Llun gan Barry Davis)


Defnyddia’r pysgotwyr ddau ddull o bysgota, un drwy sefyll mewn sianel o ddwr bas yn disgwyl i’r pysgod nofio i mewn i’r rhwyd (cwrian y gelwir hyn), a’r llall drwy’r dull arall, sef gwylio am sblash neu ôl pysgodyn ac yna rhedeg i atal y pysgodyn cyn iddo fynd i’r dwr dwfn.

Y FORYD.

(Llun gan Barry Davis)


Ceir yr amrediad llanw ail uchaf yn y byd yn ardal Moryd Afon Hafren oddi ar y Garreg Ddu. Mae hyn yn galluogi’r pysgotwyr pan fydd y llanw’n isel i gerdded i’r afon i bysgota. Mae gan y pysgotwyr eu henwau eu hunain am y mannau pysgota e.e. The Grandstand, craig Nesters a Lighthouse vear. Nid oes unrhyw fap yn nodi’r mannau hyn.

 

MR RON WILLIAMS O BYSGOTWYR RHWYDI LÂF SUDBROOK 195